Lleoliad y cyfarfod:
Y Siambr - Y Senedd
Dyddiad y
cyfarfod:
Dydd Mercher,
16 Chwefror 2022
Amser y
cyfarfod: 13.30
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV yn:
http://senedd.tv/cy/12619
------
Cynhaliwyd y cyfarfod hwn ar ffurf hybrid, gyda rhai Aelodau yn Siambr y Senedd ac eraill yn ymuno drwy gyswllt fideo.
1 Cwestiynau i Weinidog yr Economi
Dechreuodd yr eitem am 13.30
Gofynnwyd yr 8 cwestiwn cyntaf. Gwahoddodd y Llywydd lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau i Ddirprwy Weinidog y Celfyddydau a Chwaraeon ar ôl cwestiwn 2.
2 Cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol
Dechreuodd yr eitem am 14.21
Gofynnwyd yr 8 cwestiwn cyntaf. Atebwyd cwestiwn 4 gan y Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol. Gwahoddodd y Llywydd lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau i’r Gweinidog a’r Dirprwy Weinidog ar ôl cwestiwn 2.
3 Cwestiynau Amserol
Dechreuodd yr eitem am 15.11
Atebwyd gan y Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd:
Janet Finch-Saunders (Aberconwy): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am y penderfyniad i roi'r gorau i'r prosiect i gael gwared ar gylchfannau'r A55?
4 Datganiadau 90 Eiliad
Dechreuodd yr eitem am 15.21
Gwnaeth Jane Dodds ddatganiad am Ddiwrnod Gofal Rhyngwladol.
Yn unol â Rheol Sefydlog 12.18, am 15.23 cafodd y cyfarfod ei atal dros dro gan y Llywydd.
5 Dadl Aelodau o dan Reol Sefydlog 11.21(iv) – Etholiadau Llywodraeth Leol
Dechreuodd yr eitem am 15.31
Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig o dan yr eitem hon tan y Cyfnod Pleidleisio.
NDM7881 Rhys ab Owen (Canol De Cymru)
Cynnig bod y Senedd:
1. Yn nodi:
a) bod Deddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau Cymru 2021 yn ymestyn yr hawl i bleidleisio i bobl ifanc 16 ac 17 oed a dinasyddion tramor sy'n preswylio'n gyfreithlon yng Nghymru, yn sicrhau dyletswydd i annog pobl leol i gymryd rhan mewn llywodraeth leol, ac yn galluogi cynghorau i gael gwared ar system y cyntaf i'r felin i ethol cynghorwyr;
b) y defnyddir system fwy cyfrannol mewn etholiadau lleol yn yr Alban, gan leihau nifer y seddi lle nad oes cystadleuaeth, a sicrhau bod pob pleidlais yn cyfrif.
2. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i weithio'n agos gyda chynghorau newydd a etholir ym mis Mai 2022 i sicrhau bod dull mwy cynrychioliadol a system genedlaethol unffurf yn cael eu defnyddio i ethol cynghorwyr ledled Cymru erbyn 2027.
Cyd-gyflwynwyr
Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
13 |
2 |
39 |
54 |
Gwrthodwyd y cynnig.
6 Dadl ar ddeiseb P-05-949 Arbed yr Hen Ysgol Ganolradd i Ferched y Bont-faen rhag ei Dymchwel
Dechreuodd yr eitem am 16.17
NDM7924 Jack Sargeant (Alun a Glannau Dyfrdwy)
Cynnig bod y Senedd:
Yn nodi’r ddeiseb ‘P-05-949 Arbed yr Hen Ysgol Ganolradd i Ferched y Bont-Faen Rhag ei Dymchwel’ a gasglodd 5,522 o lofnodion.
P-05-949 Arbed yr Hen Ysgol Ganolradd i Ferched y Bont-Faen Rhag ei Dymchwel
Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
7 Dadl y Ceidwadwyr Cymreig – Ariannu Llywodraeth Leol
Dechreuodd yr eitem am 16.48
Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y Cyfnod Pleidleisio.
Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig heb ei ddiwygio:
NDM7923 Darren Millar (Gorllewin Clwyd)
Cynnig bod y Senedd:
1. Yn diolch i gynghorwyr, awdurdodau lleol a'u staff ledled Cymru am eu rôl yn ystod pandemig y coronafeirws.
2. Yn credu bod yn rhaid i awdurdodau lleol Cymru gael eu hariannu'n ddigonol i'w galluogi i ddarparu gwasanaethau cyhoeddus o'r ansawdd uchel y maent yn anelu ato.
3. Yn gresynu at y ffaith nad yw'r fformiwla ariannu llywodraeth leol bresennol yn addas i'r diben.
4. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gomisiynu adolygiad annibynnol allanol o ariannu llywodraeth leol yng Nghymru i sicrhau ei fod yn darparu cyllid teg ar gyfer pob rhan o'r wlad
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
26 |
0 |
28 |
54 |
Gwrthodwyd y cynnig heb ei ddiwygio.
Cyflwynwyd y gwelliant a ganlyn:
Gwelliant 1 Lesley Griffiths (Wrecsam)
Dileu pwyntiau 3 a 4 a rhoi yn eu lle:
Yn nodi'r cynnydd arfaethedig o 9.4 y cant yn y setliad llywodraeth leol ar gyfer 2022-23 a gyhoeddwyd ar 16 Rhagfyr 2021, a fydd yn parhau i gynorthwyo awdurdodau i ddarparu gwasanaethau o safon uchel.
Yn cydnabod bod llywodraeth leol a Llywodraeth Cymru ar y cyd yn parhau i adolygu a datblygu'r fformiwla ariannu fel ei bod yn parhau i fod yn deg, yn addas i'r diben ac yn cynnig sefydlogrwydd ac ymatebolrwydd i awdurdodau.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 1:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
28 |
0 |
26 |
54 |
Derbyniwyd gwelliant 1.
Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig fel y’i diwygiwyd:
NDM7923 Darren Millar (Gorllewin Clwyd)
Cynnig bod y Senedd:
1. Yn diolch i gynghorwyr, awdurdodau lleol a'u staff ledled Cymru am eu rôl yn ystod pandemig y coronafeirws.
2. Yn credu bod yn rhaid i awdurdodau lleol Cymru gael eu hariannu'n ddigonol i'w galluogi i ddarparu gwasanaethau cyhoeddus o'r ansawdd uchel y maent yn anelu ato.
3. Yn nodi'r cynnydd arfaethedig o 9.4 y cant yn y setliad llywodraeth leol ar gyfer 2022-23 a gyhoeddwyd ar 16 Rhagfyr 2021, a fydd yn parhau i gynorthwyo awdurdodau i ddarparu gwasanaethau o safon uchel.
4. Yn cydnabod bod llywodraeth leol a Llywodraeth Cymru ar y cyd yn parhau i adolygu a datblygu'r fformiwla ariannu fel ei bod yn parhau i fod yn deg, yn addas i'r diben ac yn cynnig sefydlogrwydd ac ymatebolrwydd i awdurdodau.
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
28 |
0 |
26 |
54 |
Derbyniwyd y cynnig fel y’i diwygiwyd.
Yn unol â Rheol Sefydlog 12.18, am 17.45 cafodd y trafodion eu hatal dros dro i ganiatáu egwyl technegol cyn y Cyfnod Pleidleisio.
8 Cyfnod Pleidleisio
Dechreuodd yr eitem am 17.49
Crynodeb o Bleidleisiau
9 Dadl Fer
Dechreuodd yr eitem am 17.52
NDM7914 Laura Anne Jones (Dwyrain De Cymru)
Adfywio canol trefi a dinasoedd yng Nghymru: ni fydd mwy o'r un peth yn gweithio.
Daeth y cyfarfod i ben am 18.11
Cynhelir Cyfarfod Llawn nesaf y Senedd am 13.30, Dydd Mawrth, 1 Mawrth 2022